Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 2 Mai 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(61)v4

 

<AI1>

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud) 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud) 

Gweld y cwestiynau

</AI2>

<AI3>

Cwestiwn Brys

 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn ychwanegol at ddatganiad ysgrifenedig y Gweinidog heddiw, a’r newyddion y bu angen cymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar dri bwrdd iechyd lleol, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ar y goblygiadau ar gyfer cyllideb y GIG.

</AI3>

<AI4>

3. Cynnig i sefydlu’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog (1 funud) 

 

NDM4969  Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:

 

1. Yn sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog; a

 

2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor fydd craffu ar waith y Prif Weinidog am unrhyw fater sy’n berthnasol i’r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.

 

</AI4>

<AI5>

4. Cynnig i ethol Aelodau’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog (1 funud) 

 

NDM4970  Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

 

1. Paul Davies (Ceidwadwyr), Mark Drakeford (Llafur), Elin Jones (Plaid Cymru), David Melding (Ceidwadwyr) ac Eluned Parrott (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelodau o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog; a

 

2. David Melding (Ceidwadwyr) yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

 

</AI5>

<AI6>

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar Iechyd y Geg mewn Plant (60 munud) 

 

NDM4971 Christine Chapman (Cwm Cynon)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr ymchwiliad i iechyd y geg ymhlith plant, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Chwefror 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 25 Ebrill 2012.

 

Dogfennau Ategol:

Adroddiad gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

</AI6>

<AI7>

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 

 

NDM4972 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) y manteision i economi Cymru a fyddai’n dod yn sgîl rhewi’r dreth gyngor;

 

b) yr arian canlyniadol gwerth £38.9m gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i gyllido rhewi’r dreth gyngor yn Lloegr;

 

c) y byddai cost rhewi’r dreth gyngor yn y flwyddyn ariannol 2012-13 yn sylweddol is na’r £38.9m;

 

d) y manteision y gellid eu gwireddu gyda gweddill yr arian i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru

 

2. Yn galw am dryloywder, atebolrwydd ac effeithlonrwydd llwyr mewn gwariant cyhoeddus yng Nghymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 1, dileu ‘rhewi’r dreth gyngor’ a rhoi yn ei le ‘rhagor o wariant ar seilwaith’

 

[Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol]

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘yn ’ a rhoi yn ei le ‘Lloegr ac yn credu y dylid defnyddio’r arian hwn i ysgogi economi Cymru, gan gynnwys helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru.’

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ar ddiwedd pwynt 1b, ychwanegu:

 

“ac yn croesawu’r pecyn ysgogi economaidd a gyllidwyd ganddo.”

 

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Dileu pwynt 1c ac 1d.

 

Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2: ‘yn cynnwys gwneud gwell defnydd o wariant ar seilwaith’

 

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod 16 Cyngor Ceidwadol yn Lloegr ac un yng Nghymru wedi methu  â dilyn polisi’r blaid Geidwadol wrth iddynt gynyddu’r dreth gyngor eleni.

 

Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) - Yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.23(iii), ni ddetholwyd y gwelliant hwn.

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

"Yn croesawu’r rheolaeth ariannol ofalus a gaiff ei chyflawni gan awdurdodau lleol a arweinir gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru sydd wedi’u galluogi i gadw’r codiadau yn y dreth gyngor yn isel dros yr wyth mlynedd diwethaf."

</AI7>

<AI8>

7. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) 

 

NDM4973  Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn croesawu’r rheolaeth ariannol ofalus a gaiff ei chyflawni gan awdurdodau lleol a arweinir gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru sydd wedi’u galluogi i gadw’r codiadau yn y dreth gyngor yn isel dros yr wyth mlynedd diwethaf.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

 

Yn annog rheolaeth ariannol ofalus ar ran pob awdurdod lleol i’w galluogi i rewi’r dreth gyngor

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd.

 

Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol er mwyn gallu rhewi’r dreth gyngor ledled Cymru.

</AI8>

<AI9>

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am

</AI9>

<AI10>

8. Dadl Fer (30 munud) 

 

NDM4968 Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol yng Nghymru

 

Wrth i’r boblogaeth heneiddio ac wrth i bobl ddynesu at ddiwedd eu hoes gydag anghenion gofal mwy cymhleth drwy’r amser, nodir bod hwyluso mynediad at ofal lliniarol a gofal diwedd oes sy'n gost effeithiol ac o ansawdd uchel yn mynd i ddod yn fwyfwy pwysig.

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 8 Mai 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>